Ymarferiadau iaith Saesneg TGAU: os am ymarfer dy sgiliau ‘proof reading / stimulus / editing’ Saesneg TGAU dros wyliau’r Nadolig, dyma ddolen at set go enfawr o adnoddau i wneud hynny ar Hwb.


Adnoddau Cymraeg i astudio ac adolygu TGAU
Ymarferiadau iaith Saesneg TGAU: os am ymarfer dy sgiliau ‘proof reading / stimulus / editing’ Saesneg TGAU dros wyliau’r Nadolig, dyma ddolen at set go enfawr o adnoddau i wneud hynny ar Hwb.
Wrth astudio Bertolt Brecht ar gyfer Drama, cofiwch fod yna gefndir cryno i Theatr Epig a Brecht ar wefan Bitesize TGAU y BBC.
Mae hanes bywyd Bertolt Brecht hefyd ar gael ar y Wicipedia Cymraeg
Mae na gwpwl o glipiau fideo ar gyfer Hanes TGAU y Chwyldro Diwydiannol ar gael ar BBC Bitesize TGAU:
1. Allforio glo o Gaerdydd a’r Barri.
Am ddatblygiad dociau Caerdydd a’r Barri o ganlyniad i ffyniant y diwydiant glo.
2. Diwydiant gwlân Dyffryn Teifi.
Am y diwydiant gwlân yng ngorllewin Cymru yn ystod yr oes Fictorianaidd.
Os ti’n stryglo gyda threigliadau Cymraeg, mae na ganllaw ar wefan Bitesize TGAU y BBC.
Cofia glicio ar y tabiau gweithgareddau a phrawf wedyn i brofi dy hun.
Mae na set newydd o adnoddau ar wefan Hwb. Dyma’r ddolen.
Os ydych chi’n astudio ar gyfer Astudiaethau Cyfryngau TGAU, mae na adnoddau digidol adolygu newydd ar gyfer myfyrwyrgan Hwb. Mae’n cynnwys adnoddau cynhwysfawr a deunyddiau estynedig ar gyfer myfyrwyr. Cwmni ZigZag wnaeth gynhyrchu’r gwreiddiol.
Mae na lyfryn adolygu u’r uned Hysbysebu mewn print ac ar y teledu gyda’r pynciau canlynol ynddi:
Awgrymiadau adolygu a sefyll yr arholiad.
Esboniad o’r amcanion asesu.
Rhestr gwefannau defnyddiol.
Cwestiynau math arholiad ar gyfer ymarfer.
Manylion am y testunau (Adran A: Hysbysebu mewn Print ac Adran B: Hysbysebu ar y Teledu) gyda gweithgareddau addas i fyfyrwyr.
Astudiaeth achos ar gydgyfeiriant cyfryngol.
Golwg ar gynrychioliad o fewn hysbysebu.
Termau a diffiniadau allweddol a ddysgir trwy weithgareddau’r myfyrwyr (cyffredinol a phenodol i hysbysebu mewn print ac ar y teledu).
Enghreifftiau o hysbysebu print a theledu.
Gweithgareddau Astudio’r Cyfryngau TGAU sy’n annog myfyrwyr o bob gallu i gynnal eu hymchwil eu hunain o’r testunau.
Cynllun marcio.
Cofiwch hefyd am adnoddau BBC Bitesize Astudiaethau Cyfryngau TGAU.
Llun o 1996 SRC Handbook. Stiwdio Subcity yn ystod T in the Park.
Mae tim Bitesize TGAU BBC Cymru wedi bod yn brysur yn diweddaru‘r adnoddau arlein. Mae’r wefan bellach yn gweithio’n well ar lechi a ffonau symudol yn ogystal a laptops a chyfrifiaduron mawr.
Dyma’r wybodaeth ar wefan CBAC.